CRAFT . . . y dewis craff
Gwnewch ddewis gwahanol a chraff pan fyddwch yn:
- Chwilio am ddarnau unigryw y gallwch eu fforddio i'ch cartref
- Ceisio penderfynu beth i'w wneud â phethau sy'n rhy dda i'w gwastraffu
- Edrych am siop â chyfleusterau trwsio a hurio beiciau
- Awyddus i osgoi gwastraff a helpu eraill
Dewiswch siop sy'n wahanol ac sy'n cynnig popeth o lwy de i swît dridarn, o lyfr i feic, o gwcer i gyfrifiadur; cyflenwad newydd bob dydd a gwasanaeth dosbarthu da.
Dewiswch wasanaeth casglu am ddim. Dim ond un alwad ffôn a bydd CRAFT yn casglu unrhyw eitemau rydych chi eisiau eu gwaredu ac a allai fod o ddefnydd i rywun arall.
Ffoniwch 01970 626532 i roi cynnig arni. Os yw'n fyw cyfleus i chi, bydd CRAFT yn falch o dderbyn cyfraniadau pan fydd y siop ar agor.
Dewiswch CRAFT ac fe fyddwch yn helpu i:
- Ysgogi mwy o bobl i ddewis ailddefnyddio, a helpu i wneud Cymru'n wyrddach
- Cadw prisiau o fewn cyrraedd pobl ar incwm isel
- Cynnal CRAFT nad yw'n derbyn unrhyw gymhorthdal ar gyfer rhedeg y fenter - ac felly mae pob ceiniog yn cyfrif
- Datblygu cyfleoedd hyfforddi a lleoliad gwaith fel y gall pobl greu gwell dyfodol i'w hunain
- Lledaenu'r neges am fyw'n gynaladwy fel y gall pawb edrych ymlaen at fyd gwell
Dewiswch CRAFT os ydych chi ar incwm isel neu'n derbyn budd-dal: fe allech fod yn gymwys i gael cerdyn gostyngiad craft, sy'n rhoi gostyngiad o 25% ar lawer o eitemau o ddodrefn a thaliadau dosbarthu. Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.
