Amdan CRAFT
ynglŷn â craft
Hanes
Sefydlwyd CRAFT ym 1994 gan wirfoddolwyr yn cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion yn Aberystwyth. Y nodau pennaf oedd darparu nwyddau tŷ fforddiadwy trwy annog pobl i gyfrannu eitemau nad oedd eu hangen arnynt i'w hailddefnyddio gan eraill. Mae'r nodau deuol hyn - cymdeithasol ac amgylcheddol - yn dal i fod wrth wraidd ethos CRAFT.
Yn ganolog i'r nodau hyn oedd cynnwys gwirfoddolwyr a fyddai felly'n datblygu'n bersonol ac yn helpu'r gymuned.
Mae'r llun ar y chwith yn dangos adeilad gwreiddiol CRAFT yn hen iard yr heddlu, morfa mawr. Er ei fod yn gyfyng, yn llaith a heb wres, fe alluogodd craft serch hynny i ymsefydlu ac i ddenu cefnogaeth boblogaidd o Aberystwyth a'r tu hwnt.
Enw gwreiddiol CRAFT oedd Ceredigion Recycling And Furniture Team, ond erbyn hyn, fe'i gelwir wrth yr acronym.
Strwythur cyfreithiol
Daeth CRAFT yn gwmni dielw, cyfyngedig trwy warant, ym mis mehefin 1998. Ei rif cofrestru cwmni yw 3574692 a'i rif cofrestru taw yw 771 887 577. Nid oes cyfranddalwyr na pherchnogion allanol, ac mae'r busnes yn cael ei reoli gan ei fwrdd rheoli lleol ei hun.
Statws swyddogol
Mae CRAFT yn gorff amgylcheddol cofrestredig ac yn brosiect cymeradwy sydd wedi cofrestru gydag entrust, sef corff rheoleiddio'r dreth dirlenwi. Mae'n brosiect cofrestredig gydag Amgylchedd Cymru, rhif R230.
Mae CRAFT yn perthyn i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cylch (Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru), Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Ceredigion, y Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol a'r Rhwydwaith Ailgylchu Dodrefn.
Y busnes presennol
Yn 2006, symudodd craft i'w safle newydd yng ngorsaf Aberystwyth. mae yma siop sy'n lle arbennig, sef adeilad rhestredig sydd mor amgylcheddol gyfeillgar ag y gall fod, ac yn llawn pethau diddorol i edrych arnyn nhw neu i'w prynu. Mae yna rai swyddfeydd ac adeilad gweithdy ar wahân. Mae manylion am y prosiect helaeth hwn, a enwyd yn ‘dim pen y daith', i'w gweld ar y tudalennau ‘prosiect datblygu' (gweler y blwch chwith)
Gweithgarwch
Busnes craidd craft yw casglu rhoddion o ddodrefn, nwyddau trydanol, beiciau ac eitemau tŷ y gellir eu hailddefnyddio; eu profi a'u trwsio yn ôl yr angen; sicrhau bod y nwyddau'n addas ar gyfer eu hailddefnyddio a'u gwerthu yn ei siop. Mae ei siop feiciau hefyd yn trwsio beiciau cwsmeriaid ac yn llogi beiciau. Mae'r holl brisiau'n fforddiadwy, gyda gostyngiadau i bobl ar fudd-daliadau neu sydd ag incwm isel.
Mae yna wasanaeth casglu am ddim, a chodir yn ôl pellter am ddosbarthu nwyddau. Mae gan CRAFT weithdai ar wahân ar gyfer coed, eitemau trydanol ac eitemau cyfrifiadurol.
Mae CRAFT yn cynnig gwasanaeth defnyddiol i'r rhai sydd am gael gwared ar eitemau diangen y gellir eu hailgylchu, yn ogystal ag i'r rhai sy'n chwilio amdanynt. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau cyflogi gwerthfawr, gan gynnwys lleoliadau hyfforddi a phrofiad gwaith, lleoliadau therapiwtig, Cyfleoedd i wirfoddolwyr a chyflogaeth â thâl.
Mae CRAFT yn gweithredu system gyfeirio gydag asiantaethau gofal cofrestredig ar gyfer pobl ag anawsterau ariannol sydd ag angen nwyddau: bydd pobl a gyfeirir yn derbyn gostyngiad o 25% ar lawer o eitemau oddi ar brisiau sydd eisoes yn fforddiadwy.
Nodau
Mae CRAFT yn fusnes ailgylchu dodrefn dielw sy'n gweithio i leddfu tlodi yng Ngheredigion. Wrth wneud hynny, mae'n cynyddu llwyddiant economaidd y sir, yn annog cynhwysiad cymdeithasol ac yn gwneud lles i'r amgylchedd.
Mae gan CRAFT dri nod:
- darparu cyfleuster i alluogi ailddefnyddio nwyddau tŷ diangen, trwy siop adwerthu, a gwasanaeth casglu a dosbarthu.
- darparu cyfleodd cyflogaeth, hyfforddiant, a chyfleoedd i wirfoddoli.
- darparu dodrefn a nwyddau tai eraill i bobl ar incwm isel neu fudd-daliadau.
Gweithredu
Mae CRAFT yn cynnwys saith adran:
- gwerthiannau, gweithredu siop adwerthu sy'n agored i bawb
- logisteg, sy'n cynnwys casglu a dosbarthu
- gweithdy trydanol, sy'n ymdrin ag offer i'r cartref a nwyddau trydanol i'r tŷ
- gweithdy cyfrifiaduron, ar gyfer cyfrifiaduron a chyfarpar tg cysylltiedig
- siop feiciau, atgyweirio, trwsio a hurio beiciau.
- gweithdy coed, sy'n atgyweirio eitemau i'r siop.
- gwasanaethau canolog, gweinyddiaeth a chyllid
Ardal
Mae adeiladau craft yn aberystwyth ac maent yn agored i'r cyhoedd. Mae ei wasanaeth dosbarthu a chasglu yn cynnwys ceredigion a'r ardaloedd cyfagos.
Cefnogaeth gymunedol
Mae CRAFT yn ffynhonnell boblogaidd o eitemau fforddiadwy i'r tŷ, ac yn denu cwsmeriaid o bob cwr o geredigion, yn ogystal â rhai o ymhellach i ffwrdd ac ymwelwyr.
Mae'r gwasanaeth casglu'n fodd i bobl drosglwyddo eu nwyddau diangen er mwyn i eraill gael eu hailddefnyddio, ac yn ategu gwasanaeth symud nwyddau swmpus y cyngor lleol ar gyfer gwaredu eitemau cartref nad oes angen iddynt bellach.
