CRAFT ailgylchu nwyddau er budd yr amgylchedd

Prosiect Datblygu

Dim Pen y Daith

Dim Pen y Daith oedd enw'r prosiect a ddatblygodd adeilad CRAFT yn yr orsaf ac a symudodd ei weithrediadau yno.

Dyluniwyd yr adeiladau i fod mor amgylcheddol gynaliadwy â phosibl ac i gynnwys llawer o nodweddion ‘gwyrdd'. Ymhlith y rhain mae:

  • inswleiddiad trwchus wedi ei wneud o bapur newydd
  • gwresogi tanlawr
  • bwyler biomas sy'n llosgi tanwydd naddion pren lleol
  • rendrad o galch a gwydr wedi ei ailgylchu
  • defnyddiau wedi eu hailddefnyddio: llechi, cerrig pafin, dur
  • defnyddiau ailgylchadwy ac o effaith amgylcheddol isel
  • pren 'FSC'
  • ffenestri dwbl a thriphlyg gyda gwydr adlewyrchol heulol
  • awyriad naturiol
  • dim pvc: mae yna linoliwm, pethau trydanol di-pvc a phibau dŵr metel yn lle
  • gwresogi dŵr gan ddefnyddio ynni'r haul
  • paneli ffotofoltaidd
  • cydrannau wedi eu gwneud yn lleol
  • ailddefnyddio adeilad segur
  • ailddefnyddio safle tir llwyd halogedig

. . . ac mae rhagor!

Costiodd y prosiect £2.8m ac fe'i ariannwyd fel a ganlyn:

Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop

1,461,918

Cronfa Adfywio Lleol Cyngor Sir Ceredigion

550,000

Grant Buddsoddi Rhanbarthol Asiantaeth Datblygu Cymru

105,694

Y Gronfa Loteri Fawr Cleanstream

100,000

Y Gronfa Loteri Fawr Trawsnewid Eich Gofod

100,000

Llywodraeth Cynulliad Cymru Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol

100,000

Y gGonfa Loteri Fawr Enfys

80,000

Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd

60,660

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

27,284

Cronfa Etifeddiaeth y Dreth Dirlenwi

20,000

Llywodraeth Cynulliad Cymru Grant Trafnidiaeth Wledig

20,000

Llywodraeth Cynulliad Cymru: Cymunedau'n Tyfu

18,000

Cyfraniadau mewn nwyddau

1,350

Adnoddau CRAFT

51,862

Cyfanswm y cyfalaf

2,696,768

 

Y Gronfa Loteri Fawr hefyd, cyfrannodd Cleanstream oddeutu £100,000 tuag at gostau refeniw wrth i CRAFT baratoi i symud.

Ar wahân i ddarparu lle pwrpasol i hwyluso ehangiad CRAFT, cwblhaodd y prosiect hefyd y gwaith o adfer ac ailddatblygu'r orsaf reilffordd restredig yng nghanol Aberystwyth, a oedd yn segur cyn hynny.

Mae'r adeilad gweithdy modern iawn ychydig o ffordd i lawr trac y rheilffordd yn nodwedd bensaernïol gyferbyniol, a chafodd wared ar ddarn o dir diffaith hyll ar hyd ymyl y parc mân-werthu.

Cyn belled â phosibl, defnyddiodd y prosiect ymgynghorwyr, contractwyr a defnyddiau lleol, ac mae'n dangos yn glir iawn fod y farn gyhoeddus bellach yn ystyried ailddefnyddio ac ailgylchu'n rhan annatod o weithgarwch mân-werthu canol y dref.

Codwyd baner newydd CRAFT dros yr adeilad ar 28 Gorffennaf 2007.

 

craft flag