Discount Card (cy)
Polisi cerdyn CRAFT
Mae CRAFT yn cyhoeddi cardiau gostyngiad i bobl ar fudd-daliadau ac incwm isel. Pwrpas y gostyngiad yw cadw prisiau eitemau sylfaenol y cartref yn arbennig o isel ar gyfer pobl sydd eu hangen. Mae'n rhoi gostyngiad o 25% oddi ar bris eitemau cymwys (nid yw hyn yn cynnwys eitemau trydanol, cyfrifiaduron na beiciau). Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys, gofynnwch wrth y til a bydd y staff yn fwy na pharod i'ch helpu.
Mae'r cerdyn gostyngiad yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan CRAFT, ac felly bydd eitem a brisiwyd yn £20 yn gwerthu am £15 i ddeiliad cerdyn gostyngiad ac ni fydd unrhyw ffynhonnell allanol yn ad-dalu'r gwahaniaeth.
Ymhlith yr eitemau cymwys mae:
Dodrefn ac eitemau tŷ sylfaenol
Costau dosbarthu
Ymhlith yr eitemau anghymwys mae:
- Cyfarpar trydanol
- Hynafolion ac eitemau i'w casglu
- Dodrefn gorau
- Eitemau a gwasanaethau'r Siop Feiciau
- Eitemau a gwasanaethau'r Siop Gyfrifiaduron
Pwyntiau i'w nodi
- Mae'r gostyngiad yn seiliedig ar y pris gwreiddiol a nodwyd. Ni cheir ei ddefnyddio i ategu unrhyw gynigion arbennig, gan gynnwys gostyngiadau.
- Gellir defnyddio'r cerdyn ar gyfer eitemau sydd at ddefnydd personol deilydd y cerdyn, neu bartner neu berthnasau dibynnol y deilydd.
Galwch heibio neu rhowch ganiad i weld a ydych chi'n gymwys
5/4/07
