Cyfrannu Eitemau i CRAFT
Mae CRAFT eisiau pob math o eitemau y gellir eu hailddefnyddio a'u hailwerthu. . .
. . . ac yn eu casglu nhw am ddim
DODREFN
Pob math o ddodrefn tŷ a swyddfa: cadeiriau breichiau, gwelyau, silffoedd llyfrau, cadeiriau, crudau, cypyrddau, desgiau, matresi, silffoedd, soffas, byrddau, stondinau teledu, wardrobau ac ati.
Beth sy'n ANNERBYNIOL? | Dodrefn sydd wedi torri, wedi eu difrodi neu eu marcio'n sylweddol. |
EITEMAU TRYDANOL
Pob math o eitemau trydanol SY'N GWEITHIO: poptai, peiriannau DVD, oergelloedd, rhewgelloedd, tegellau, lampau, systemau cerddoriaeth, tostwyr, peiriannau sychu dillad, setiau teledu, peiriannau fideo, peiriannau golchi, ac ati.
Beth sy'n ANNERBYNIOL? | Eitemau trydanol sydd angen cael eu trwsio neu eu glanhau'n sylweddol |
CYFRIFIADURON A CHYFARPAR TG
Pob math o galedwedd sy'n gweithio: unedau sail, monitorau 17" neu fwy, bysellfyrddau, llygod, seinyddion, sganwyr, cydrannau, nwyddau traul heb eu defnyddio, ac ati.
Beth sy'n ANNERBYNIOL? | Peiriannau argraffu |
BEICIAU
Pob math o feic, gan gynnwys beiciau mynydd, beiciau ffordd, beiciau oedolion a beiciau plant.
Beth sy'n ANNERBYNIOL? | Beiciau sydd mewn cyflwr gwael iawn, wedi rhydu'n solet neu wedi eu difrodi'n wael. |
LLYFRAU
Pob math o lyfrau: ffuglen, ffeithiol, gwerslyfrau, modern, hynafiaethol, llyfrau oedolion, llyfrau plant, ac ati
Beth sy'n ANNERBYNIOL? | Llyfrau sydd wedi eu difrodi, wedi eu rhwygo, sy'n cwympo'n ddarnau neu lle mae rhywun wedi sgriblo ynddynt. |
EITEMAU TŶ
Pob math o eitemau tŷ: Offer cegin, llenni, clustogau, teganau, gêmau, cadeiriau gwthio, rygiau ac ati.
Beth sy'n ANNERBYNIOL? | Eitemau sydd wedi torri, wedi'u tolcio, wedi cracio, wedi rhwygo neu sy'n frwnt. |
DILLAD
Gall dillad glân a thecstilau glân sydd wedi eu difrodi gael eu casglu i'w hailbrosesu. Os ydyn nhw mewn cyflwr da, dylech ystyried eu rhoi i siop elusen yn y dref.
Peidiwch â chynnig BWYD inni
Angen gwneud yn siŵr a ydy CRAFT ei eisiau? Ffoniwch ni
