Telerau ac Amodau
Telerau ac amodau
Mae'r telerau ac amodau a ganlyn yn berthnasol i holl gwsmeriaid craft a defnyddwyr y wefan.
Disgrifiad o'r Nwyddau
Byddwn yn cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau bod holl fanylion, disgrifiadau a phrisiau cynhyrchion sy'n ymddangos ar y wefan yn gywir ar yr adeg y rhoddwyd yr wybodaeth berthnasol ar y system. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod cynigion i brynu pan fydd gwybodaeth am gynhyrchion wedi ei chyhoeddi'n anghywir, gan gynnwys prisiau a hyrwyddiadau.
Argaeledd
Mae'r cyflenwad o nwyddau yn ddibynnol ar argaeledd ac efallai na fydd bob amser yn bosibl inni eich hysbysu pan fyddwch yn cysylltu â ni a yw'r nwyddau rydych eu heisiau yn dal i fod ar gael i'w prynu. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Os byddwch yn prynu eitem a honno'n peidio â bod ar gael cyn ichi gymryd meddiant neu gyn iddi gael ei dosbarthu (e.e. oherwydd difrod, lladrad neu bryderon diogelwch), byddwn yn cysylltu â chi a chynigir eitem arall a ddewiswyd yn ofalus neu rhoddir ad-daliad.
Dosbarthu
Os byddwch yn prynu eitem ar wahân i ddodrefn ac yn byw y tu allan i'n hardal ddosbarthu arferol, caiff yr eitemau eu dosbarthu gan y Post Brenhinol, ac eithrio eitemau swmpus, trwm neu werthfawr, y gellir eu hanfon trwy gwmni cludo. byddwn yn codi'r gost lawn am y dosbarthiadau hyn. NI allwn ddosbarthu dodrefn ac eithrio yn ein faniau ein hunain yn ein hardaloedd dosbarthu arferol; cewch fanylion am y gwasanaethau hyn ar y dudalen casglu a dosbarthu.
Dychwelyd
Rydym yn cynnig polisi dychwelyd di-gwestiwn am gyfnod o saith niwrnod o'r dyddiad y derbyniwch y nwyddau. Dylech ddychwelyd unrhyw nwyddau diangen mewn cyflwr addas ar gyfer eu hailwerthu. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau statudol, ewch i: http://www.consumerdirect.gov.uk/.
Os yw eitem yn ddiffygiol neu'n wahanol i'r disgrifiad, pan ddychwelwch eich eitem inni, byddwn yn prosesu'r eitem a ddychwelwyd ac yn cynnig y dewis o gyfnewid (lle bydd modd gwneud hyn yn achos nwyddau rhoddedig, a all fod yn unigryw) neu ad-daliad.
Os byddwch yn gofyn am ad-daliad ar gyfer eitem sy'n ddiffygiol neu a ddisgrifiwyd yn anghywir, byddwn hefyd yn ad-dalu'r gost o ddosbarthu'r eitem ichi.
Nid yw hyn yn cynnwys nwyddau derbyniol a ddosbarthwyd mewn cyflwr da; bryd hynny, os byddwch yn newid eich meddwl neu'n penderfynu bod yr eitem yn anaddas, ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw gostau dosbarthu ichi.
Gallwch ddisgwyl ad-daliad trwy'r un dull o dalu ag a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i brynu'r eitem.
Hawliadau gwarant
Os bydd nwyddau'n datblygu nam yn ystod cyfnod y warant (os oes cyfnod o warant), bydd CRAFT (ar ei ddewis ef) naill ai:
- yn cyfnewid y nwyddau hynny, os oes gan CRAFT yr un nwyddau neu rai tebyg ar gael am yr un pris;
- yn trwsio'r nwyddau hynny; neu
- yn ad-dalu neu'n rhoi credyd ichi am y swm a dalwyd gennych am y nwyddau perthnasol o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y dychwelir y nwyddau perthnasol yn unol â pholisi dychwelyd CRAFT (uchod).
Dylech roi gwybod i craft yn ysgrifenedig neu drwy e-bost cyn gynted â phosibl, ond o fewn 14 diwrnod fan bellaf i'r dyddiad y gwnaethoch ddarganfod neu y dylech fod wedi darganfod y difrod, nam neu gŵyn.
Nid yw'r amodau uchod yn berthynol i unrhyw nam yn y nwyddau sy'n deillio o draul deg, difrod bwriadol, damwain, esgeulustod ar eich rhan chi neu unrhyw drydydd parti, defnydd ar wahân i'r ffordd a fwriadwyd, methu â dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr neu CRAFT, nac unrhyw newid neu drwsio a wneir heb gael caniatâd ysgrifenedig CRAFT ymlaen llaw.
Os bydd y nwyddau a gyflenwir ichi wedi eu difrodi wrth eu cludo, dylech roi gwybod i craft o fewn 7 diwrnod gwaith i dderbyn y nwyddau a'u dychwelyd inni yn unol â'n polisi dychwelyd (gweler uchod). Unwaith y byddwn wedi adnabod y gwall, byddwn yn cyfnewid y nwyddau neu'n rhoi ad-daliad llawn i chi (yn ôl eich dymuniad chi) trwy'ch dull talu gwreiddiol ac yn ad-dalu eich costau cludo rhesymol am eu dychwelyd. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Sylwch fod unrhyw eitemau a ddychwelir inni am eich bod yn honni eu bod yn ddiffygiol neu'n anghyflawn yn cael eu harchwilio a'u dilysu gan ein technegwyr. Os ydym yn darganfod nad yw nwyddau a ddychwelir yn ddiffygiol nac yn anghyflawn, cânt eu hanfon yn ôl atoch, a bydd gennym yr hawl i ofyn i chi dalu am gostau eu dosbarthu trwy'ch dull gwreiddiol o dalu. Os digwydd fod eich cerdyn/siec wedi dod i ben neu'n cael ei (g)wrthod, byddwn yn dal yr eitem(au) nes byddwn yn derbyn tâl cyflawn am y cludiant.
Byddwch yn dychwelyd unrhyw nwyddau inni ar eich cyfrifoldeb eich hun, ac felly rydym yn annog yn gryf i'n holl gwsmeriaid gymryd gofal rhesymol wrth ddychwelyd unrhyw eitemau inni trwy sicrhau bod y cyfeiriad cywir ar y nwyddau, eu bod wedi eu pecynnu'n ddigonol ac yn cael eu cludo gan gludwr cyfrifol.
Os byddwch am gysylltu â ni ynglŷn â dychwelyd neu i wneud cwyn, byddwch cystal ag e-bostio customerservice@craftrecycling.org.uk neu ysgrifennwch atom: gwasanaethau cwsmeriaid, CRAFT, Station Buildings, Ffordd Alexandra, Aberystwyth, SY20 1LH
Diogelwch
Wrth gyflwyno eich archeb, rydych yn cytuno i brynu nwyddau ac i ganiatáu i CRAFT ddefnyddio eich manylion personol at bwrpasau cyflenwi'r nwyddau. I gael rhagor o wybodaeth am breifatrwydd a diogelwch, byddwch cystal â darllen polisi preifatrwydd a diogelwch CRAFT.
Colledion
ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled (gan gynnwys colli eiddo, refeniw, contractau, arbedion disgwyliedig, data, ewyllys da na gwariant ofer hyd yn oed pe bai'r golled yn rhesymol ragweladwy i chi ac i ni pan oeddech yn dechrau defnyddio'r wefan neu pan ffurfiwyd y contract ar gyfer gwerthu'r nwyddau. Fodd bynnag, nid yw CRAFT yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd cyfreithiol am farwolaeth neu anaf personol a achosir oherwydd ein hesgeulustod neu dordyletswydd neu a achosir gan ein hesgeulustod dybryd neu gamymddygiad bwriadol.
Newidiadau i'r gwasanaeth neu welliannau i'r amodau
Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'n gwefan, ein polisïau, a'r telerau ac amodau prynu hyn ar unrhyw adeg. Byddwch yn amodol ar y polisïau a'r telerau ac amodau prynu sydd mewn grym ar yr adeg y byddwch yn defnyddio'r wefan neu y byddwch yn archebu nwyddau gennym, oni fydd y gyfraith neu awdurdod llywodraeth yn gorfodi gwneud unrhyw newid i'r polisïau neu'r amodau hynny. Os digwydd hynny, bydd yn gymwys i'ch archebion blaenorol.
os bernir bod unrhyw rai o'r amodau hyn yn annilys, yn ddi-rym, neu yn anorfodadwy am unrhyw reswm, ystyrir y gellir torri'r amod hwnnw ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd unrhyw amod sy'n weddill.
Digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol
Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw oedi neu fethiant â chydymffurfio â'n rhwymedigaethau dan yr amodau hyn os bydd yr oedi neu'r methiant yn deillio o unrhyw reswm sydd y tu hwnt i'n rheolaeth resymol. Nid yw'r amod hwn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Cyfraith lywodraethol ac awdurdodaeth
Caiff yr amodau hyn eu llywodraethu gan, a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Rydych yn cytuno, fel yr ydym ni, i ymostwng i awdurdodaeth lwyr llysoedd Lloegr.
Medi 2007
