CRAFT ailgylchu nwyddau er budd yr amgylchedd

Dodrefn

Mae pob math o ddodrefn ar gael yn CRAFT: soffas, cadeiriau breichiau, byrddau a chadeiriau, desgiau, silffoedd llyfrau, cypyrddau, matresi a mwy. Galwch heibio neu rhowch ganiad neu e-bostiwch yr adran ddodrefn ar furniture@craftrecycling.org.uk

Mae'r stoc yn newid bob dydd.

Os ydych ar incwm isel neu'n derbyn budd-daliadau, efallai byddwch chi'n gymwys ar gyfer ein cerdyn gostyngiad, sy'n rhoi 25% oddi ar bris llawer o eitemau o ddodrefn a'r tâl dosbarthu;  cliciwch y ddolen ar y chwith isod i gael rhagor o wybodaeth.

Cofiwch hefyd fod gennym ni bob amser lawer o eitemau ar ôl clirio tai yn ystafell arddangos y platfform a'r rheiny ar werth am brisiau bargen - byddwch chi'n synnu  beth sydd i'w gael o gyn lleied â 99c.

Os na allwch weld yr hyn rydych chi'n chwilio amdano, gadewch gais ‘dwi eisiau' gan ddefnyddio'r ddolen isod ac fe rown ni wybod i chi os daw rhywbeth i mewn.

Os oeddech chi'n ystyried rhoi eitemau, defnyddiwch y ddolen ‘cyfrannu eitemau i craft' isod i wybod rhagor.

Ffurflen gais Dwi eisiau Cerdyn disgownt Cyfrannu Eitemau i CRAFT