Adnoddau
Dyma'r rhan o'r wefan ar gyfer gwybodaeth ac adborth am wahanol bynciau. Os edrychwch yn y blwch i'r chwith, fe welwch wahanol benawdau; bydd clicio ar unrhyw un ohonynt yn mynd â chi i dudalen o wybodaeth a dolenni sydd wedi'u cysylltu â phob pwnc.
Bydd yr adran Amgylcheddol yn ymdrin â phethau sy'n gysylltiedig â materion gwyrdd - popeth o dwymo byd-eang i wres o'r ddaear ac inswleiddio. bydd yr adran Ailgylchu'n ymdrin ag unrhyw beth sy'n ymwneud â materion ailgylchu, yn lleol ac yn genedlaethol, a bydd Cyfrifiaduron yn ymdrin â phopeth sy'n ymwneud â chyfrifiaduron, cynghorion a thriciau a datrys problemau - gan gynnwys Linux Ubuntu, sy'n cael ei osod ar y peiriannau y byddwn yn eu gwerthu. Cliciwch ar beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, a phorwch.
Bydd yr wybodaeth yn gyfyngedig i ddechrau, ond y bwriad yw i'r holl adrannau hyn dyfu'n rheolaidd ac yn enwedig i gynnwys gwybodaeth gennych chi hefyd. os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cynghorion neu driciau neu ddolenni at wefannau defnyddiol/diddorol yn unrhyw un o'r meysydd, a wnewch chi e-bostio'r manylion atom i computers@craftrecycling.org.uk er mwyn i eraill gael rhannu'r wybodaeth.
Bydd y Blog yn fforwm cyffredinol ar gyfer adborth a/neu drafod unrhyw bynciau dan haul. byddwn yn ei ddiweddaru gyda'n newyddion a'n gwybodaeth ni cyn amled â phosibl. bydd newyddion pwysig am CRAFT ar y dudalen Newyddion.
