Gwirfoddolwyr
Rydym bob amser yn awyddus i gael gwirfoddolwyr i weithio gyda'n staff. Os gallwch chi sbario amser rheolaidd bob wythnos, cysylltwch â ni i drafod pa feysydd all fod o ddiddordeb i chi. Byddai angen peth arbenigedd technegol ar gyfer meysydd fel cyfrifiaduron neu drydanol, ond nid o reidrwydd ar gyfer llawer o feysydd eraill - mae brwdfrydedd a pharodrwydd i helpu cwsmeriaid bob amser yn ddefnyddiol.
Mae bod yn wirfoddolwr yn CRAFT yn werth chweil iawn. Gall pobl weithio yn y rhan fwyaf o rannau o'r busnes: allan yn y faniau, yn helpu gyda dosbarthu a chasglu; gweithio yn y timau technegol gyda beiciau, eitemau trydanol neu gyfrifiaduron; neu weithio gyda'r tîm gwerthu yn y siop neu'n didoli nwyddau yn y cefn.
Mae CRAFT yn hyblyg ynglŷn â phobl sy'n dymuno gwirfoddoli, eu hamgylchiadau a'u hargaeledd. Bydd rhai pobl yn dod am ychydig oriau yr wythnos, mae eraill fwy neu lai yn llawn amser, gyda'r rhan fwyaf yn gwneud awr neu ddwy yr wythnos.
Daw gwirfoddolwyr i CRAFT i feithrin a defnyddio eu sgiliau mewn busnes ymarferol go iawn. Mae eu cyfraniadau i'w nodau amgylcheddol a chymdeithasol yn rhan bwysig o amrywiaeth CRAFT.
